Ymateb y Llywodraeth: Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022

 

Pwyntiau Adrodd Craffu Technegol 1:   Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod effaith ôl-weithredol Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022 yn gyfreithlon. Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr offeryn yn gydnaws ag Erthygl 1 o Brotocol 1 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Ystyrir bod yr offeryn yn taro cydbwysedd teg rhwng hawliau unigolion a’r budd cyffredinol a’i fod yn gymesur.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr amserlen rhwng cyflwyno’r Gorchymyn drafft diwygiedig gan y Panel ar 20 Rhagfyr 2021 a gwneud a gosod y Gorchymyn (ar 31 Mawrth a 1 Ebrill 2022 yn y drefn honno) yn rhesymol ac nad oedd angen esbonio hynny yn y Memorandwm Esboniadol.

 

Pwyntiau Adrodd Craffu Technegol 2:    Ceir nodyn cyfarwyddyd ar wefan Llywodraeth Cymru sy’n esbonio bod cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol/Cyflog Byw Cenedlaethol wedi cynyddu o 1 Ebrill 2022[1]. Mae’r nodyn cyfarwyddyd yn cynnwys tabl sy’n nodi’r cyfraddau uwch hyn ac yn esbonio y bydd y cyfraddau uwch hyn yn gymwys i’r pum gradd newydd o weithwyr amaethyddol ac y byddant yn parhau i fod yn gymwys hyd nes y gwneir Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol newydd neu hyd nes iddynt gael eu disodli gan newidiadau pellach i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol/Cyflog Byw Cenedlaethol. Ceir hefyd dogfen ganllawiau manwl sy’n esbonio’r pwynt hwn ymhellach[2].

 

Pwynt Adrodd Craffu ar Rinweddau 3:    Nodir mewn rhai achosion fod y cyfraddau uwch ar gyfer yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol/Cyflog Byw Cenedlaethol a ddaeth i rym o 1 Ebrill 2022 yn fwy na’r cyfraddau isafswm cyflog a nodir yn y Gorchymyn ac felly maent wedi eu disodli. Nodir yn y byr-dymor fod y cyfraddau isafswm cyflog ar gyfer Graddau A4, B4 a C yr un faint.   

 

Mae’r Panel wrthi’n llunio ei gynigion terfynol ar gyfer Gorchymyn 2022/23 a bydd yn cyflwyno Gorchymyn drafft i’w ystyried gan Weinidogion Cymru yn fuan. Bydd y cyfraddau isafswm cyflog arfaethedig yng Ngorchymyn 2022/23, fel yr ymgynghorwyd arnynt ym mis Ionawr 2022[3], yn datrys y mater hwn, oherwydd y cynigir y bydd cyfraddau tâl gwahanol yn gymwys i Raddau A4, B4 ac C.

 

 

Pwynt Adrodd Craffu ar Rinweddau 4:    Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu nifer y Memoranda Esboniadol a’r Asesiadau Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Offerynnau Statudol a osodir yn ddwyieithog gerbron y Senedd.

Mae Rheol Sefydlog 15.4 o’r Senedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob dogfen gael ei gosod yn ddwyieithog cyn belled ag y bo’n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol, ac mae Safon 47 o Safonau’r Gymraeg (y dyletswyddau statudol a osodir ar Lywodraeth Cymru gan Gomisiynydd y Gymraeg) yn ei gwneud yn ofynnol inni ystyried y pwnc a’r gynulleidfa a ragwelir ar gyfer dogfennau penodol wrth flaenoriaethu eu cyfieithu. O dan ganllawiau a ddarparwyd gan swyddfa’r Comisiynydd (yn ei Chod Ymarfer ar Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015), wrth flaenoriaethu’r dogfennau hyn i’w cyfieithu ar yr adeg hon fe wnaethom ystyried materion megis a oedd y Rheoliadau yn ymwneud â materion sy’n effeithio ar y Gymraeg yn uniongyrchol, a oedd y Rheoliadau o ddiddordeb mawr i grwpiau o siaradwyr Cymraeg yn benodol, ac a fyddai cyfran uchel o’r gynulleidfa ar gyfer y dogfennau yn siarad Cymraeg. Am fod y Gorchymyn o natur dechnegol ac yn effeithio dim ond canran fach iawn o’r boblogaeth, barnwyd nad oedd yr ME yn flaenoriaeth i’w gyfieithu y tro hwn. 

 

 



[1] https://llyw.cymru/cyflogau-amaethyddol-cyfraddau-tal-isaf

[2] https://llyw.cymru/cyflogau-amaethyddol-canllawiau

[3] https://llyw.cymru/telerau-ac-amodau-ar-gyfer-gweithwyr-amaethyddol-2022